Mae’r Mentrau Iaith yn helpu i arwain y ffordd ym maes prosiectau technoleg ieithyddol. Er mwyn i’r Gymraeg barhau a ffynnu mae’n rhaid cyflwyno’r Gymraeg i fyd technoleg, a’i defnyddio’r dechnoleg honno. Hoffai’r Mentrau Iaith gyhoeddi enwau’r 3 prosiect sydd wedi cyrraedd rhestr fer categori Technoleg yng Ngwobrau’r Mentrau Iaith;

Clybiau Gemau Fideo – Menter Caerffili 

Nod Clybiau Gemau Fideo Menter Caerffili yw cynyddu defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg trwy weithgareddau sy’n defnyddio technoleg yn cynnwys chlybiau wythnosol a misol, cyfleoedd i wirfoddoli, sianeli digidol a nifer o rwydweithiau ar-lein lleol. Bellach mae 4 sianel YouTube wahanol; Teganau, Gemau Retro, Gemau Fideo ac Yn Chwarae yn targedu oedran 5 i 18+ gan ddenu dros 24,000 o weliadau. 

Apiau Magi Ann – Menter Iaith Fflint a Wrecsam 

Cyfres o 6 ap am ddim yw apiau Magi Ann sy’n helpu plant a rhieni i ddysgu’r Gymraeg drwy storïau syml a lliwgar. Mae’n cynnig cyfle i blant oed cyfnod sylfaen fwynhau gemau syml wrth ddysgu darllen gan hefyd hyrwyddo’r Gymraeg ymysg rhieni. Mae’r cymeriad hefyd yn byw tu hwnt i’r ap gyda Magi Ann yn ymweld â phartïon, ysgolion, diwrnodau hwyl a mwy. 

WiciMôn – Menter Iaith Môn 

Pwrpas WiciMôn yw cyfoethogi’r Gymraeg ar Wicipedia er mwyn codi statws yr iaith gyda chwmnïau datblygu meddalwedd digidol, gan ganolbwyntio ar bynciau hanesyddol, gwyddonol a diwylliannol. Hyd yma, mae 2,752 erthygl wedi eu hysgrifennu gan wirfoddolwyr WiciMôn; plant ysgol gynradd, uwchradd a phobl hŷn, sy’n gyfraniad sylweddol i’r Gymraeg ar y we. 

Mae’r categori wedi ei noddi gan S4C Clic, llwyfan digidol y sianel deledu. S4C yw darlledwr cenedlaethol Cymru sy’n darparu dros 100 awr o deledu’r wythnos o 06:00 y bore hyd hanner nos, i gyd yn Gymraeg. Gyda nifer cynyddol yn gwylio adloniant arlein ac yn defnyddio technolegau gwahanol i wneud hynny, mae’n bwysig bod adnoddau digidol yn sicrhau lle ymysg y mawrion er mwyn rhannu adloniant cyfrwng Gymraeg gyda’r gynulleidfa.