Mae ein cyfraniad i greu a chefnogi digwyddiadau bywiog, addysgiadol a llawn hwyl yn amhrisiadwy i’n cymunedau. O wyliau mawr i glybiau achlysurol – mae digwyddiadau yn fodd i fwynhau’r Gymraeg. Hoffai’r Mentrau Iaith gyhoeddi enwau’r 3 digwyddiad sydd wedi cyrraedd rhestr fer yng Ngwobrau’r Mentrau Iaith; 

Tafwyl – Menter Caerdydd 

Gŵyl a pharti mawr blynyddol i ddathlu’r Gymraeg yn ein Prifddinas yw Tafwyl. Mae’r ŵyl yn ddathliad balch a hyderus o’n diwylliant ar ei orau, ac yn gyfrwng i ddefnyddio’r Gymraeg yn gwbl naturiol mewn awyrgylch anffurfiol a chynhwysol gan ddenu bron i 40,000 o bobl i’r digwyddiad yn 2019. 

Sesh Sŵn – Menter Iaith  Castell Nedd Port Talbot 

Mae’r Sesh Sŵn yn sesiwn werin Gymraeg, ac yn gyfle i bobl o bob oed, gallu ieithyddol a cherddorol gwrdd mewn sefyllfa anffurfiol i chwarae cerddoriaeth draddodiadol a phoblogaidd. Gyda Sesh Fach hefyd yn gyfle i offerynwyr dechreuol ddysgu’r caneuon, mae cyfle i bawb ddatblygu sgil yn ogystal ag ymarfer yr iaith. 

Parti Ponty – Menter Iaith Rhondda Cynon Taf 

Gŵyl Gymraeg i bawb yw Parti Ponty sy’n rhoi llwyfan i gymysgedd o berfformwyr o’r ardal, a thu hwnt, sydd wedi ehangu i ddigwyddiadau dros 5 lleoliad yn y sir yn 2019. Gyda gweithgareddau, adloniant, gweithdai, a stondinau amrywiol sy’n hybu’r Gymraeg – mae pobl ifanc yn rhan greiddiol i’r digwyddiad a dros 100 ohonynt yn gwirfoddoli i helpu’r ŵyl fod yn llwyddiant. 

Mae’r categori wedi ei noddi gan gwmni marchnata Aqua. Yn gwmni corfforedig a gafodd ei sefydlu yn 2007 mae Marchnata Aqua Marketing Cyf yn cynnig ystod o wasanaethau datblygu a marchnata i’r sector breifat, gyhoeddus a’r trydydd sector yng Nghymru a thu hwnt.