Caru pêl-droed?
Mae cystadleuaeth Euro2020 yn agosáu, a ry’n ni am i TI greu ‘chant’ pêl-droed -cân neu rap – i’r Wal Goch ei floeddio wrth gefnogi Cymru.
Beth sydd angen ei wneud?
Cer amdani a chreu ‘chant’ Gymraeg neu ddwyieithog sy’n addas i bawb ei weiddi o’r dorf neu yn y ‘stafell fyw.
Mae’n rhaid iddi fod yn ddigyfeiliant. Ond beth am glapio i gadw curiad?
Pwy sy’n cael cystadlu?
Mae 3 chategori – oed cynradd, uwchradd ac oedolion.
Gelli gystadlu fel unigolyn, fel grŵp, fel ysgol neu fel clwb.
Bydd panel o feirniaid yn dewis y 3 uchaf ym mhob categori er mwyn mynd ymlaen i’r rownd derfynol.
Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis gan y cyhoedd ar bleidlais cyfryngau cymdeithasol.
Sut i gystadlu:
Anfona recordiad o dy hun yn perfformio’r ‘chant’ at dy Fenter Iaith leol yn cynnwys y ffurflen hon. Mae rhestr a map o’r Mentrau Iaith i’w gweld yma, gyda dy fanylion cyswllt.
Angen help gyda geirfa Cymraeg? Dyma restr o eirfa pêl-droed gall dy helpu, neu gelli gysylltu gyda dy Fenter Iaith leol am gyngor am sut i fynd ati.
Pam cystadlu?
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn chwilio am ‘chants’ newydd er mwyn i’r Wal Goch gefnogi Cymru, o gartref ac o’r dorf.
Bydd crys arbennig wedi ei arwyddo gan garfan Euro2020 ar gael i fuddugwyr pob categori gyda chyfansoddwr y ‘chant’ gorau un yn cael y cyfle i ymweld â sesiwn ymarfer y garfan. .
Erbyn pryd?
Anfona dy gais mewn erbyn y 12ed o Fai.
Bydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn cyhoeddi’r enillwyr ar y 3ydd o Fehefin, mewn pryd ar gyfer cefnogi Cymru yn nhwrnamaint Euro2020.