Mae Mentrau Iaith Cymru yn chwilio am gwmni i ddylunio, gweinyddu, cynnal a chynnig cefnogaeth ar gyfer dwy wefan. Mae’r tendr hwn ar gyfer 2 ddarn o waith, nodir isod: 

Rhan 1 – Gwefan Papurau Bro 

Mae Mentrau Iaith Cymru yn gweinyddu grant ar ran Llywodraeth Cymru ar gyfer y Papurau Bro ac yn edrych sut orau i’w cefnogi. Yn dilyn ymatebion gan bwyllgorau’r papurau, maent oll yn awyddus i gael gwefan sy’n adlewyrchu beth yw papur bro, sydd yn cyfeirio’r cyhoedd at eu papur lleol, a hefyd yn fan i bwyllgorau’r papurau rannu gwybodaeth a deunyddiau defnyddiol. Rydym yn chwilio am gwmni i ddylunio, gweinyddu, cefnogi a chynnal gwefan ar gyfer diwallu’r anghenion hyn. 

Rhan 2 – Gwefan Mentrau Iaith Cymru 

Mae gwefan www.mentrauiaith.cymru yn blatfform cenedlaethol ar gyfer y Mentrau Iaith sy’n darparu gwybodaeth gyffredinol am waith, newyddion a swyddi’r mentrau. Dyma hefyd gartref Mentrau Iaith Cymru (MIC), endid ymbarél sy’n cefnogi a hyrwyddo’r Mentrau Iaith. Mae’r wefan felly yn cynnwys mewnrwyd ar gyfer staff rhwydwaith y Mentrau Iaith, wedi ei reoli gan MIC, sy’n cynnwys system storio dogfennau, lluniau a mwy. 

Bydd y cytundeb yn un barhaus, a disgwylir i’r cwmni llwyddiannus fod ar gael yn ystod oriau swyddfa i gynnig cefnogaeth drwy’r Gymraeg pan fo’r angen. 

Lawrlwythwch y ddogfen uchod am fwy o wybodaeth neu cysylltwch â Chydlynydd Marchnata a Chyfathrebu MIC, Marged Rhys drwy e-bost marged@mentrauiaith.cymru neu drwy ffonio 01492 643401