Ras yr Iaith Aberystwyth Gorffenaf 07 2016 ©keith morris www.artswebwales.com keith@artx.co.uk 07710 285968 01970 611106

Ffurflen Grant Ras yr iaith

Yn dilyn Ras hynod lwyddiannus yng Ngorffennaf 2016, mae gan Ras yr Iaith gyfanswm o £12,000 i’w roi ar ffurf grantiau. Mae’r grantiau ar agor i unrhyw fudiad neu gymdeithas yn ardaloedd y ras eleni, sydd am wneud cais fydd yn hyrwyddo’r iaith Gymraeg mewn unrhyw ffordd.

Prif Fanylion y Grantiau:

  • Grantiau ar gael o £50 i £750
  • Rhaid i arian y grant fod ar gyfer hyrwyddo’r iaith Gymraeg
  • Rhaid i’r gymdeithas neu ddigwyddiad sy’n elwa o’r grant fod o fewn dalgylch agos i’r ardaloedd ble gynhaliwyd y Ras yng Ngorffennaf 2016
  • Dyddiad cau ceisiadau grant yw 12pm Dydd Gwener y 3ydd o Chwefror 2017.