DIWEDDARIAD PWYSIG:

Yn anffodus, ni fydd y grant hwn yn digwydd eleni.

Wrth ymateb i efaith Covid19 nid yw’r arian hwn bellach ar gael, ac felly ni fyddwn yn gallu derbyn unrhyw geisiadau ar gyfer 2020-21.

Er hyn, bydd MIC yn parhau i hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg yn ein cymunedau mewn ffyrdd amgen. Rydym yn gobeithio y bydd y gronfa yma yn gallu ailagor yn y dyfodol.


 

DIWEDDARIAD:

Yn ymateb i’r datblygiadau Coronafeirws, mae MIC wedi penderfynu symud y dyddiad cau i Fehefin 30ain, 2020.
Bydd MIC yn ailasesu’r sefyllfa dros y misoedd nesaf ond ar y funud credwn ei bod yn bwysig bod gwyliau i’r gymuned edrych ymlaen atynt ar ôl i ni ddod allan o’r cyfnod ansicr hwn.
Bydd cyfle i’r gwyliau sy’n cael eu canslo yng ngwanwyn eleni ymgeisio ar gyfer y grant yn 2021.
Bydd MIC yn addasu’r ddogfen Amodau yn yr wythnosau nesaf i adlewyrchu’r newid hwn.

Mae MIC yn edrych i hybu gwyliau cymunedol gyda phwyslais ar gerddoriaeth boblogaidd Cymraeg drwy gynnig cefnogaeth ariannol i sefydliadau a grwpiau lleol. Bydd grantiau hyd at £5,000 ar gael i’w cynorthwyo gyda’r gwaith o drefnu a chynnal gweithgaredd sy’n cyfrannu at fwy o ddefnydd o’r Gymraeg yn gymunedol.

Dyddiad cau ceisiadau: Mawrth 31, 2020

Am fwy o wybodaeth am y grantiau a phwy all wneud cais ebostiwch Marged Rhys ar marged@mentrauiaith.cymru neu ffonio 01492 643401 neu lawrlwythwr yr Amodau a’r Ffurflen Gais uchod.