Mae diwrnod llawn hwyl gyda mynediad am ddim wedi’i drefnu yng Nghastell Caerffili ar ddydd Sadwrn Mehefin 25ain.

Gŵyl flynyddol Menter Caerffili yw Ffiliffest i ddathlu iaith a diwylliant Cymru ac fe fydd y digwyddiad yn cynnwys perfformiadau, adloniant, gweithgareddau, gweithdai a chyfle i grwydro’r castell.

Menter Caerffili wedi gweithio yn agos gyda Cadw, grwpiau cymunedol a pherfformwyr i drefnu’r digwyddiad mewn lleoliad hollol unigr yw. Mae cannoedd o blant o ysgolion lleol yn paratoi ac yn ymarfer i ddawnsio gwerin ar y brif lwyfan sef arddangosfa dawnsio gwerin fwyaf y Sir. Fe fydd hefyd perfformiadau gan y band Clinigol, yr unawdydd John Nicholas a seren S4C Martyn Geraint.

Fe fydd stondinau nwyddau a bwyd, hefyd gweithgareddau a gweithdai addysgol amrywiol megis pabell celf a chrefft, sesiwn Ioga, ardal gemau retro, sinema plant bach yn dangos cartwnau S4C a hyn i gyd o fewn y Castell.

Dywedodd Bethan Jones o Menter Caerffili ynglŷn ar resymau dros gynnal yr ŵyl:

“Yn Ffiliffest rydym ni’n croesawi bobl o bob oedran i ddod i fwynhau iaith a diwylliant Cymru mewn lleoliad ffantastig. Mae’r digwyddiad yn cynnig cyfleoedd i bobl ddod mewn cysylltiad ar iaith beth bynnag eu gallu. Dy’n ni’n gyffrous iawn wrth i Ffiliffest dyfu o flwyddyn i flwyddyn.”

Fe fydd Ffiliffest yn cael ei chynnal ar Fehefin 25 rhwng 10:30-16:00 yng Nghastell Caerffili. Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Menter Caerffili neu ffoniwch 01443 820913