Profiad braf eithriadol yn Wrecsam ddoe wrth i dros fil o bobl ymuno yn nathliadau Dydd Gŵyl Dewi a drefnwyd gan Fenter Iaith Maelor mewn cydweithrediad â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Roedd y dref dan ei sang gyda baneri Cymru a chennin Pedr wrth i bobl o bob oed ddod i wylio’r orymdaith trwy’r dref dan arweiniad medrus Band Cambria.

Roedd ‘na berfformiadau arbennig yn Sgwâr y Frenhines ar ddiwedd y daith gan Gôr Cymunedol Wrecsam a disgyblion Ysgol Cefn Mawr cyn i bawb ymuno i gyd-ganu’r Anthem Genedlaethol.

Dywedodd Gill Stephen, Prif Swyddog Menter Iaith Maelor.

“Roedd hi’n arbennig o braf eleni i weld cymaint o gynrychiolaeth gan ysgolion Wrecsam, gyda dros 500 o blant yn ymuno yn y dathliadau. 

Mae’r orymdaith a dathliadau dydd Gŵyl Dewi wedi bod yn tyfu pob blwyddyn yn ddiweddar ac wedi dod i fod yn ddigwyddiad pwysig iawn yng nghalendr tref fwyaf y gogledd.

Rydym yn edrych ymlaen at weld yr orymdaith yn parhau i ddatblygu a thyfu yn y blynyddoedd nesaf.”

Os hoffech wybod mwy am y cyfleoedd sydd ar gael i ddefnyddio a dysgu Cymraeg neu addysg Gymraeg yn Wrecsam, cysylltwch â Menter Iaith Maelor.