Diwrnod Shwmae Su’mae

Mae Diwrnod Shwmae Su’mae yn dathlu’r Gymraeg ar 15 Hydref bob blwyddyn – trwy ddweud Shwmae neu Su’mae wrth bawb, dechrau pob sgwrs yn y Gymraeg, cynnal gweithgareddau Cymraeg a llawer mwy. Mae’r Gymraeg a’r diwrnod yn perthyn i bawb ac mae cymunedau Cymru yn dathlu gyda gweithgareddau gwahanol.

Am fwy o wybodaeth ac adnoddau digidol cer i wefan Mudiad Dathlu sy’n hwyluso’r diwrnod. Cysyllta â dy Fenter Iaith leol i weld beth sydd ar gael.