Dyma hanes Bethan Jones, Menter Caerffili a fanteisiodd ar gynllun ieuenctid ar y cyd ag Urdd Gobaith Cymru i fynd ar daith i Batagonia eleni.

Yn Awst eleni bues i’n ffodus iawn i gael staffio taith arbennig i Batagonia yn eu blwyddyn dathlu 150 mlynedd ers i’r fintai gyntaf ymfudo yno. Y prosiect oedd, Taith sioe ‘Mimosa’, drama wedi’i ysgrifennu gan Tim Baker o Theatr Clwyd a’r gerddoriaeth gan Dyfan Jones. Prosiect ar y cyd rhwng Urdd Gobaith Cymru, Mentrau Iaith a Theatr Clwyd. Roedd y cast yn gyfunaid o bedwar actor proffeisynol, un deg chwech person ifanc o Gymru a dau person ifanc o Patagonia.

Hanes pobl y fintai gyntaf yw sioe ‘Mimosa’, a’u rhesymau am fentro i ochor arall y byd i ddechrau ‘Cymru newydd’. Mae’r sgript yn esbonio anawsterau’r cyfnod yng Nghymru, y diweithdra, gormes gan Loegr a’r landlordiaid. Clywn am syniad Michael D. Jones i sefydlu Cymru Gymreig ym Mhatagonia, clywn am y teuluoedd a mentrodd, clywn am y babanod fu farw a’r babanod a gafodd eu geni ar gwch Y Mimosa, hen glipar te.

Ond hanes ein taith ni oedd hyn, criw o staff a phobl ifanc Cymru yn mynd â drama am hanes Patagonia draw i’r gymuned ym Mhatagonia! Ar wahân i’r perfformio, cefais gyfle i weld morfilod, blasu Asado, ymweld â thraeth y glanio, cael te Cymreig mewn tŷ te, siarad hefo Cymru Patagonia am eu hanes a’u bywyd yno. Wrth deithio’r paith gwelais Gaucho’s Patagonia, Fflamingos, yr Andes llawn eira a chant a mil o bethau eraill hefyd.

Wrth weld anialwch llychlyd Patagonia o amgylch y trefi, roedd yn dy atgoffa fod dim byd yn bodoli yn y fro yma cyn i’r Cymry ddod, ac mae lot mawr wedi datblygu dros y 150 mlynedd diwethaf.

Roedd pob eiliad o’r daith yn anhygoel. Yn wir ichi, gallaf ond annog mwy o staff y Mentrau Iaith i ymgeisio i fod yn staff ar deithiau ieuenctid tebyg yn y dyfodol.

Mae’n gyfle unigryw fel unigolyn i weld gwlad anhygoel ac i brofi diwylliant Cymru ochr arall y byd, ac fel staff mae’n brofiad arbennig i arwain criw o bobl ifanc ar daith i ochr arall y byd a rhoi profiad bywyd bythgofiadwy iddynt.

Mae hanes Cymru Patagonia yn rhan bwysig iawn o’n hanes ni yng Nghymru, a’n dyfalbarhad fel cenedl i ddiogelu’n hiaith a’n diwylliant.