Digwyddiad 2020

Croeso i hafan Digwyddiad 2020!

Isod gwelwch fideos o sesiynau Digwyddiad Di-gynsail!

Byddwch yn gweld o’r isod nad yw pob sesiwn wedi ei gynnwys.

Ar ddewis y cyflwynwyr ni gafodd sesiwn ‘Ymlaen at y miliwn i gynnwys pawb’ gyda Sara Yassine a Savanna Jones ei recordio.

Recordiwyd y sesiynau ‘Lles mewn cyfnod heriol’ gyda Canna Consulting. Gan eu bod o bosib yn trafod materion sensitif rydym yn gofyn i chi gysylltu’n uniongyrchol gyda MIC os hoffech chi wylio un o’r isod a mi fyddwn yn rhannu’r fideos gyda chi yn unig:

  • ‘Eich lles chi a’ch staff mewn cyfnod heriol’ (Sesiwn i’r Prif Swyddogion)
  • ‘Lles a iechyd meddwl mewn cyfnod heriol’ (Sesiwn i staff y Mentrau Iaith) 
  • ‘Lles eich staff mewn cyfnod heriol’ (i gyfarwyddwyr y Mentrau Iaith) 

Bydd cofnodion Cyfarfod Blynyddol MIC a’r cyfarfod cenedlaethol yn cael eu rhannu gyda’r Prif Swyddogion maes o law.

Gofynnwn yn garedig i chi beidio rhannu’r fideos yma ymhellach na staff a chyfarwyddwyr y Mentrau Iaith.

Diolch unwaith eto i bawb am fynychu, a mwynhau gobeithio, y Digwyddiad Di-gynsail! Cofiwch edrych ar #DigwyddiadDigynsail2020 am yr hanes ar y cyfryngau cymdeithasol.

 Enw sesiwn & cynnwys & pwy Fideo
   
 Gair o groeso a chyflwyno ‘Maniffesto’ gan Lowri Jones, Cadeirydd MIC 

             Gwirfoddoli a’r Mentrau Iaith: recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr, yr arferion da 

    Cyflwyniad ‘Lobïo effeithiol’ gyda Nerys Evans, Deryn Consulting 

    Gweithdy ‘Sesiwn Stori Sionc ar-lein’ gyda Sian Elin Williams 

    Gweithdy ‘Creu a chynhyrchu podlediadau Cymraeg’ gyda Marc Griffiths, BBC Radio Cymru a Bethan Ollerton-Jones 

 Cyflwyniad ‘Llais y Gymraeg’ gyda Gwenllïan Carr, Llywodraeth Cymru 

 Gweithdy ‘Siarad gyda siaradwyr newydd’ gyda Nia Llywelyn, Say Something In Welsh 

 Gweithdy ‘Dysgu Cymraeg anffurfiol: targedu’r lefelau cywir’ gyda Helen Prosser, Canolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol 

 Cyflwyno gyda Huw Edwards, BBC