Croeso i hafan Digwyddiad 2020!
Isod gwelwch fideos o sesiynau Digwyddiad Di-gynsail!
Byddwch yn gweld o’r isod nad yw pob sesiwn wedi ei gynnwys.
Ar ddewis y cyflwynwyr ni gafodd sesiwn ‘Ymlaen at y miliwn i gynnwys pawb’ gyda Sara Yassine a Savanna Jones ei recordio.
Recordiwyd y sesiynau ‘Lles mewn cyfnod heriol’ gyda Canna Consulting. Gan eu bod o bosib yn trafod materion sensitif rydym yn gofyn i chi gysylltu’n uniongyrchol gyda MIC os hoffech chi wylio un o’r isod a mi fyddwn yn rhannu’r fideos gyda chi yn unig:
- ‘Eich lles chi a’ch staff mewn cyfnod heriol’ (Sesiwn i’r Prif Swyddogion)
- ‘Lles a iechyd meddwl mewn cyfnod heriol’ (Sesiwn i staff y Mentrau Iaith)
- ‘Lles eich staff mewn cyfnod heriol’ (i gyfarwyddwyr y Mentrau Iaith)
Bydd cofnodion Cyfarfod Blynyddol MIC a’r cyfarfod cenedlaethol yn cael eu rhannu gyda’r Prif Swyddogion maes o law.
Gofynnwn yn garedig i chi beidio rhannu’r fideos yma ymhellach na staff a chyfarwyddwyr y Mentrau Iaith.
Diolch unwaith eto i bawb am fynychu, a mwynhau gobeithio, y Digwyddiad Di-gynsail! Cofiwch edrych ar #DigwyddiadDigynsail2020 am yr hanes ar y cyfryngau cymdeithasol.
Enw sesiwn & cynnwys & pwy | Fideo | |
Gair o groeso a chyflwyno ‘Maniffesto’ gan Lowri Jones, Cadeirydd MIC |
Gwirfoddoli a’r Mentrau Iaith: recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr, yr arferion da
Cyflwyniad ‘Lobïo effeithiol’ gyda Nerys Evans, Deryn Consulting
Gweithdy ‘Sesiwn Stori Sionc ar-lein’ gyda Sian Elin Williams
Gweithdy ‘Creu a chynhyrchu podlediadau Cymraeg’ gyda Marc Griffiths, BBC Radio Cymru a Bethan Ollerton-Jones
Cyflwyniad ‘Llais y Gymraeg’ gyda Gwenllïan Carr, Llywodraeth Cymru
Gweithdy ‘Siarad gyda siaradwyr newydd’ gyda Nia Llywelyn, Say Something In Welsh
Gweithdy ‘Dysgu Cymraeg anffurfiol: targedu’r lefelau cywir’ gyda Helen Prosser, Canolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol
Cyflwyno gyda Huw Edwards, BBC