Mae ‘Dyfodol i’r Iaith’ wedi cyflwyno deiseb i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn tynnu sylw at waith y Mentrau Iaith ac yn galw am drefn ariannu deg i’r Mentrau.
Os allech lofnodi’r ddeiseb isod a rhannu’r manylion gyda’ch cyfeillion byddem yn ddiolchgar iawn.

“Galwn ar y Cynulliad i ofyn i Lywodraeth Cymru:
longyfarch y Mentrau Iaith am eu gwaith arloesol yn hybu a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg ar draws Cymru; cadarnhau fod y Mentrau yn bartner allweddol i’r Llywodraeth yng nghyswllt gwireddu ei Strategaeth Iaith; ymateb yn brydlon i arolwg Prifysgol Caerdydd ar waith y Mentrau, gan sicrhau fod y cyllid a roddir iddynt yn adlewyrchu’n deg faint y dasg sy’n eu hwynebu – tra’n derbyn fod angen cynyddu, yn sylweddol iawn, yr arian sydd ar gael iddynt; derbyn bod angen cysondeb rhwng y Mentrau o ran eu hariannu, a bod angen dod â’r anghysondeb presennol i ben; ariannu Mentrau Iaith Cymru yn deg, gan sicrhau ei fod yn gallu chwarae rôl gyflawn wrth gydlynu gwaith y Mentrau a chynnig cymorth ac arweiniad iddynt; sicrhau y bydd y Safonau Iaith yn gorfodi awdurdodau lleol Cymru i gefnogi gwaith y Mentrau, a bod yr awdurdodau yn gweithio’n agos gyda’r Mentrau; chwarae rôl lawn er mwyn cynnig arweiniad strategol yng nghyswllt cynllunio cymunedol.”

https://www.assemblywales.org/cy/gethome/e-petitions/epetition-list-of-signatories.htm?pet_id=984

Diolch o flaen llaw am eich cefnogaeth.