Heddiw yw cychwyn wythnos o ddigwyddiadau yn rhan o ŵyl Gymraeg Casnewydd o’r enw Gŵyl Newydd a fydd yn digwydd yn Llys Malpas, Casnewydd ar ddydd Sadwrn Medi’r 15fed rhwng 12 a 4 y prynhawn.

Gyda nifer o wyliau celfyddydol a cherddorol ar hyd a lled Cymru erbyn hyn, daeth grŵp ynghyd i drafod cynnal gŵyl Gymraeg yng Nghasnewydd, ac wedi ymgynghori â’r cyhoedd nodwyd yn glir bod awydd i gynnal gŵyl Gymraeg yn yr ardal er mwyn cefnogi’r gwaith o hyrwyddo’r Gymraeg yn gymdeithasol yn y ddinas a thu hwnt.

Mae nifer o bartneriaid lleol wedi bod yn cynorthwyo gyda’r trefnu, yn cynnwys Mentrau Iaith Casnewydd, Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy, yr Urdd, Canolfan Gymraeg i Oedolion Gwent, Prifysgol De Cymru, Mudiad Meithrin, Cymraeg i Blant a Merched y Wawr, yn ogystal â gwirfoddolwyr lleol.

Nod yr ŵyl yw cael cyfle i fwynhau a chymdeithasu mewn awyrgylch hollol ddwyieithog yn yr ardal. Mae hefyd yn gyfle i godi proffil y Gymraeg yn gymunedol gan roi ffenest siop i’r llu o gyfleoedd sydd gan bartneriaid lleol i siaradwyr rhugl, dysgwyr a’r di-Gymraeg, i ddefnyddio’r Gymraeg o fewn ein milltir sgwâr.

Bydd y noson yn cychwyn heno gyda sgwrs hanes am J E Southall yn yr Handpost yng Nghasnewydd ac yn parhau nos Iau gyda darlith am Owain Glyndŵr, yn y Settlement ym Mhont-y-pŵl, noson o gerddoriaeth y gitâr yng nghwmni Rihisiart Arwel yng Nghas-gwent a thaith gerdded bore Gwener yn y gwlypdiroedd gyda Chanolfan Cymraeg i Oedolion Gwent cyn y diwrnod mawr ar ddydd Sadwrn yn Llys Malpas.

Meddai Jamie James , Cadeirydd pwyllgor Gŵyl Newydd,

“Mae’r Gymraeg yn tyfu’n gryf yn yr ardal Casnewydd a thu hwnt, gyda mwy a mwy o siaradwr – rhugl a newydd – yn dod at yr iaith i’w defnyddio’n ddyddiol.  Mae Gŵyl Newydd yn gyfle i ni i gyd ddathlu’n hiaith a’n diwylliant yn ogystal â dangos i’r gymuned bod yr iaith yn fyw ac yn gadarn yng Nghasnewydd. Mae croeso mawr i chi gyd yr wythnos hon. ”

“Dymunwn ddiolch yn fawr i’n prif noddwyr eleni sef  Harding Evans, Pure Severn Provisions, Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac Eglwys Mynydd Seion am noddi ein blwyddyn gyntaf ac i bawb sydd wedi galluogi’r ŵyl i ddigwydd eleni.”

Bydd stondinau gwybodaeth a nwyddau lleol yn ogystal â pherfformiadau gan Gôr y Dreigiau, Côr Afon Lwyd, ysgolion yr ardal, perfformiad theatrig gan Mewn Cymeriad, dawnsio gwerin gyda Gwerinwyr Gwent, sgiliau syrcas a balŵns, cerddorfa ukelele Iwcs, gemau fideo, chwaraeon yr Urdd, stori gyda Cymraeg i Blant ac i gloi’r diwrnod bydd y canwr Mei Gwynedd yn perfformio.

Ewch i @GwylNewydd ar Twitter, Gŵyl Newydd ar Facebook neu i wefan www.gwylnewydd.cymru am fwy o wybodaeth.

amserlen gwyl newydd