Chwilio am ffyrdd i ddathlu’r ‘Dolig yn Gymraeg? Drychwch ar y llwyth o ddigwyddiadau Nadoligaidd sydd gan Siôn Corn yn ei sach i ni! Ymunwch â theulu’r Mentrau Iaith i fwynhau’r Gymraeg gyda’n gilydd y mis hwn.

Er mwyn cynyddu’r niferoedd o siaradwyr mae’n rhaid ei thrysori a’i defnyddio ym mhob rhan o’ch bywyd trwy fyw, dysgu a mwynhau yn y Gymraeg. Beth am ddysgu am hanes ein hiaith drwy ymweld â’n gwefan?
Beth am annog rhywun i drio ambell air? Defnyddiwch y daflen hon gyda geirfa a ffoneteg i’ch helpu.
Porwch trwy’r posteri isod i weld beth sydd ‘mlaen: