Ar ddydd Llun Awst, 5ed bydd derbyniad ar stondin y Mentrau Iaith ar faes Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy yn dathlu gwaith y Mentrau Iaith led-led Cymru a’r gwirfoddolwyr sy’n gwneud eu gwaith yn bosib.

Yn ystod y digwyddiad bydd taflen ‘O bydded i’r heniaith barhau’ yn cael ei lansio, sy’n cynnwys gwybodaeth ac ystadegau am y Mentrau a’u gwaith, ac yn cynnig ffyrdd gall y Cymry Cymraeg helpu wrth geisio cynyddu a chryfhau’r defnydd o’r Gymraeg yn eu cymunedau.

gwahoddiad

Cafodd y Fenter Iaith gyntaf ei sefydlu yn 1991 gan grŵp o unigolion yng Nghwm Gwendraeth, oedd yn gweld defnydd y Gymraeg yn eu bro yn dirywio. Ymateb i angen oedd y bobl hyn er mwyn cryfhau gweithgarwch cymunedol Cymraeg, felly aethant ati yn gwbl wirfoddol i weithredu.

Esbonia Huw Prys Jones, Cadeirydd Bwrdd Menter Iaith Conwy;

“Mudiadau gwirfoddol yw’r Mentrau Iaith, gydag aelodau ein holl bwyllgorau yn gwneud hynny o’u gwirfodd gan eu bod yn teimlo’n gryf dros y Gymraeg yn eu cymunedau.”

Mae dros 1,100 o wirfoddolwyr bellach yn helpu’r Mentrau yn eu cymunedau. Ond mae’r rhwydwaith yn awyddus i ddenu mwy o unigolion i chwarae eu rhan yn y nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 drwy gynyddu’r defnydd tu allan i’r dosbarth.

Dywed Lowri Jones, Cadeirydd Mentrau Iaith Cymru;

“Diolch i ymroddiad gwirfoddolwyr brwdfrydig, rydym yn ymateb i anghenion ein cymunedau ac yn gweithio gyda phobl yn ein hardaloedd, gan roi perchnogaeth o’r iaith Gymraeg i bawb. Ond mae lle i ni wneud mwy. Felly rydym yn gofyn i bwy bynnag sydd ar faes yr Eisteddfod sydd ȃ diddordeb gwirfoddoli gyda ni, boed yn achlysurol neu’n aml, i alw draw am sgwrs.”

Bydd cyfle i bawb ymuno gyda’r dathliad ar y stondin ddydd Llun, 5ed o Awst am 10.30yb i ddysgu am wahanol ffyrdd i gyfrannu tuag at y Gymraeg mewn cymunedau dros Gymru.

 gwybograffeg