*Ail Hysbysebiad* Swydd wag – Swyddog Datblygu (Rhan Amser, Cyfnod Mamolaeth) Menter Iaith Fflint a Wrecsam

*Ail Hysbysebiad*
SWYDDOG DATBLYGU
Swydd rhan amser (oriau hyblyg) am gyfnod penodol dros gyfnod mamolaeth yw hon.
£18,070 + cyfraniad pensiwn
Oriau: 22.2 awr yr wythnos
Lleoliad: Yr Wyddgrug
Dyddiad Cau: Hanner Dydd, Dydd Mawrth 30/05/2017
Mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam yn chwilio am Swyddog Datblygu i hybu a hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg o fewn cymunedau Siroedd y Fflint a Wrecsam drwy gynnal ystod eang o weithgareddau a phrosiectau cyffrous. Mae’r gallu i ryngweithio a gweithio’n annibynnol yn bwysig.
Am sgwrs anffurfiol, mwy o wybodaeth neu i wneud cais cysylltwch â:
Gill Stephen (Prif Swyddog) 01352 744040 neu gill@menterfflint.cymru www.mentrauiaith.cymru