Ar Ionawr 25ain mae’r Cymry yn dathlu Santes Dwynwen, nawddsant ein cariadon.

Mae’r Mentrau Iaith yn annog i bawb ddathlu’r dydd trwy ddangos ein cariad i’r Gymraeg. Beth wyt ti’n ei garu am ein iaith arbennig ni? Rhanna ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #CaruCymraeg

Gyda’n plantos o bob oed adref o’r ysgol ar hyn o bryd, beth am gael diwrnod cariadus ar Ddydd Santes Dwynwen drwy ddysgu stori’n Nawddsant, cwblhau chwilair, creu llun o lwy cariad neu ysgrifennu llythyr cariadus i rywun arbennig?

Dyma rai gweithgareddau i gadw plant Cymru’n brysur!