Yn ystod tymor y gwanwyn eleni, wrth i etholiadau Cynulliad Cymru ddynesu, gall pobl ifanc Cymru gymryd rhan mewn cystadleuaeth ffotograffiaeth newydd sbon gan Oxfam.

Mae cystadleuaeth ffotograffiaeth Oxfam Cymru, ‘Creu Cymru Deg’, yn gwahodd pobl ifanc rhwng 11 ac 18 oed i dynnu llun ac ysgrifennu capsiwn sy’n ddim mwy na 100 gair i rannu eu syniadau am yr hyn maen nhw am ei weld yng Nghymru’r dyfodol; sut beth yw Cymru deg yn eu barn nhw.

Cyn iddynt ddechrau tynnu lluniau mae gofyn iddynt ddysgu am degwch a chyfiawnder a hynny mewn perthynas â thair thema wahanol sy’n effeithio pawb sy’n byw yng Nghymru heddiw; gwaith gweddus, newid hinsawdd ac argyfwng y ffoaduriaid. Mae Oxfam Cymru wedi creu tri adnodd addysgiadol dwyieithog i helpu athrawon ledled Cymru i drafod y pynciau hyn gyda phobl ifanc.

Bydd y lluniau yn cael eu beirniadu gan banel o dri, gan gynnwys y Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol newydd, Sophie Howe, a byddant yn cael eu harddangos mewn digwyddiad arbennig yng nghwmni Aelodau Cynulliad Cymru newydd eu hethol. Meddai Ms Howe:

“Mae’r gystadleuaeth hon yn gyfle gwych i bobl ifanc Cymru feddwl am yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw. Gyda Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol nawr mewn lle, ac etholiadau Cynulliad Cymru yn cael eu cynnal ym mis Mai dyma’r amser perffaith i bobl ifanc feddwl beth maen nhw am ei weld yng Nghymru. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld y lluniau o ysgolion a choleg ledled y wlad.”

Mae’r panel beirniadu hefyd yn cynnwys Polly Seton o Raglen Dysgu Fyd-eang Cymru, a Glenn Edwards, cyn enillydd cystadleuaeth Ffotograffydd y Wasg Gorau’r DU.

Bydd pob llun, ynghyd a’r capsiynau, yn cael eu harddangos ar oriel ar-lein a gaiff ei rhannu gan Oxfam. Bydd ysgolion neu golegau’r enillwyr hefyd yn derbyn gweithdy am ddim gan Oxfam Cymru a bydd yr enillwyr yn cael eu gwahodd i ddigwyddiad arbennig yr haf hwn, fydd yn cynnwys arddangosfa o’r lluniau, gweithdai i bobl ifanc a chyfle iddynt gwrdd ag Aelodau Cynulliad newydd eu hethol er mwyn iddynt glywed yn uniongyrchol gan bobl ifanc Cymru.

Meddai Carys Thomas, Pennaeth Oxfam Cymru:

“Mae cystadleuaeth ‘Creu Cymru Deg’ yn gyfle i bobl ifanc ddysgu a meddwl yn feirniadol am y prif faterion sy’n effeithio ar bobl ifanc yng Nghymru cyn etholiadau Cynulliad Cymru ym mis Mai 2016 a rhannu eu neges am yr hyn y maent am ei weld yn digwydd yng Nghymru a’r hyn y mae angen i Lywodraeth nesaf Cymru ei flaenoriaethau, a hynny mewn ffordd greadigol. “

Y dyddiad cau ar gyfer anfon lluniau yw 9 Mai 2016

Am ragor o wybodaeth am y gystadleuaeth ac i lawrlwytho’r adnoddau dwyieithog am ddim ewch i http://bit.ly/PhotoCompCymru