Cyfle i ddysgwyr deithio ‘Ar Droed’ gyda Iolo Williams

Dros y misoedd nesaf, bydd y naturiaethwr a’r cyflwynydd teledu Iolo Williams yn arwain teithiau natur i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg, gan roi cyfle i ddysgwyr ddod i adnabod siaradwyr rhugl yn eu hardaloedd nhw mewn awyrgylch anffurfiol.

Mae teithiau cerdded ‘Ar Droed’ yn brosiect ar y cyd rhwng Mentrau Iaith Cymru a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Bydd pedair taith gerdded yn cael eu cynnal rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf mewn gwahanol ardaloedd o Gymru:

· Parc Margam, Castell Nedd Port Talbot: 23 Ebrill
· Ardal Dinbych: 8 Mai
· Cwm Idwal, Parc Cenedlaethol Eryri: 29 Mehefin
· Libanus, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: 4 Gorffennaf

Byddant yn rhan o her #MiliwnOGamau Mentrau Iaith Cymru – ymdrech grŵp i gerdded miliwn o gamau rhwng Ebrill a Gorffennaf 2022. Y gobaith yw rhoi mwy o gyfleoedd i bobl gymdeithasu yn Gymraeg, a helpu i gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr.

Yn ogystal â’r pedair taith gerdded gyda Iolo Williams, a fydd ar agor i 20 o unigolion ar bob un, bydd nifer o deithiau cerdded lleol yn cael eu cynnal ar yr un diwrnodau er mwyn ceisio cyrraedd targed y miliwn o gamau a chynnig digon o gyfleoedd i gymdeithasu yn Gymraeg.

Meddai Iwan Hywel, Arweinydd Tîm Mentrau Iaith Cymru, “Mae’n fraint cael Iolo yn arwain y teithiau hyn i ni. Mae ei wybodaeth o fyd natur heb ei hail, a gwelsom pan oedd yn fentor i Steve Backshall ar ‘Iaith ar Daith’ ei fod yn athro Cymraeg gwych.

“Dw i hefyd o’r farn bod sgwrs yn llifo lawer gwell wrth fynd am dro yn yr awyr iach a bydd hwn yn gyfle i ddysgwyr fwynhau siarad Cymraeg wrth ymgolli ym myd natur.

“Mae’n drueni na allwn greu copi carbon o Iolo a’i gael yn arwain bob tro ar draws Cymru!  Ond byddwn yn cynnig teithiau cerdded gydag arbenigwyr lleol ym mhob cornel o Gymru.”

Mae Iolo yn gyflwynydd cyson ar raglenni natur Autumnwatch, Winterwatch a Springwatch ar BBC 2 ac ar gyfresi natur ar S4C ac mae’n adaregydd a naturiaethwr profiadol.

Mae hefyd yn gefnogol iawn o’r Gymraeg ac yn ystod y cyfnod clo cyntaf, fe rannodd gyfres o fideos 30 eiliad ar Facebook, gan rannu awgrymiadau ar sut i ddenu bywyd gwyllt i’r ardd a beth i gadw llygaid amdano.

Meddai Iolo, “Rwy’n edrych ymlaen at arwain y teithiau cerdded yma i ddangos rhyfeddodau byd natur ar ddechrau’r haf – o’r blodau yn y cloddiau a’r caeau i alwadau arbennig adar yr adeg hon o’r flwyddyn.

“Yn ifanc, mi oeddwn i’n ddigon ffodus i dreulio llawer o amser yn crwydro cefn gwlad gyda’m taid ac mi ddysgodd lawer o enwau Cymraeg am adar a phlanhigion i mi. Bydd y teithiau yma’n gyfle i minnau rannu’r enwau tlws yma, sy’n llawn ystyr, gyda dysgwyr Cymraeg fydd falle heb eu clywed yn eu gwersi Cymraeg.”

Ychwanegodd Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, “Mae creu cyfleoedd i ddysgwyr fwynhau defnyddio eu Cymraeg yn rhan bwysig o waith y Ganolfan Genedlaethol a ’dyn ni’n falch dros ben bod Iolo Williams yn arwain y teithiau hyn.  Bydd y teithiau yn gyfle i ddysgwyr ddod i wybod mwy am y cyfoeth o eiriau Cymraeg sy’n gysylltiedig â byd natur, yn ogystal â chyfarfod a sgwrsio gyda dysgwyr eraill a siaradwyr rhugl yn eu hardal.”

Bydd teithiau lleol eraill ar gael ar y dyddiadau uchod. Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer y teithiau rhad ac am ddim, e-bostiwch ardroed@mentrauiaith.cymru