Dathlu cyfraniad neilltuol Rhian Davies i gymunedau Sir y Fflint.

Enwebwyd Rhian Davies, Swyddog Cyfathrebu Menter Iaith Sir y Fflint yn ddiweddar ar gyfer gwobr Dathlu Gwirfoddoli yr FLCV (Cyngor Gwirfoddoli Lleol Sir y Fflint) mae’r wobr yn cydnabod cyfraniad neilltuol y mae unigolion yn ei wneud trwy wirfoddoli a gwneud gwaith cymunedol yn Sir y Fflint.

Cafodd Rhian, heb yn wybod iddi eu henwebu a’u dewis i dderbyn gwobr Dathlu Gwirfoddoli yr FLVC yn eu Cyfarfod Blynyddol diweddar. Cyflwynwyd tystysgrif iddi i gydnabod ei gwaith.

Wrth ddisgrifio cyfraniad Rhian, dywed staff Menter Iaith Sir y Fflint:

“Ar ben ei gwaith beunyddiol gyda Menter Iaith Sir y Fflint, a’r holl waith sydd ynghlwm wrth fagu dwy ferch fach fywiog, mae Rhian rhywsut hefyd yn llwyddo i ddod o hyd i’r amser a’r egni i gyfrannu’n aml ac yn gyson i’r gymuned leol drwy wirfoddoli gyda nifer helaeth o wahanol bwyllgorau a mudiadau.

Mae hi’n aelod o ddau o’r pwyllgorau gwirfoddol (Pwyllgor Codi Arian a’r Pwyllgor Dawns) sydd yn gweithio’n galed tuag at sicrhau llwyddiant Eisteddfod yr Urdd yn y Fflint yn 2016, ac yn ddiweddar wedi bod yn gweithio’n arbennig o galed yn cynorthwyo gyda threfniadau’r Ŵyl Cyhoeddi a gynhaliwyd ar 3ydd o Hydref eleni.

Yn ogystal â hyn oll mae’n golygu’r papur bro lleol “Papur Fama”, yn dawnsio (clocsio) mewn gwyliau lleol megis Gŵyl y Cadi Ha’ ac yn cynorthwyo gydag Adran yr Urdd fel bo angen.

Rydym wrth ein bodd gallu dathlu a chydnabod ei chyfraniad gwerthfawr i’n hardal ni.”