Mae Hunaniaith: Menter Iaith Gwynedd a Chanolfan Iaith a Threftadaeth Nant Gwrtheyrn wedi dod at ei gilydd am y tro cyntaf i gynnal gŵyl rithiol i ddathlu’r iaith Gymraeg, ac mae’r cwbl am ddim.

Bydd Gŵyl NantIaith yn cael ei chynnal dydd Sadwrn 31 Hydref ar AM (Am bob dim) – platfform digidol Cymraeg. Bydd yr ŵyl yn cynnwys cyfuniadau o sesiynau a gweithdai byw dros Zoom a sesiynau wedi’u recordio o flaen llaw fydd yn cael eu darlledu ar AM yn ystod y dydd.

Mae’r sesiynau’n cynnwys rhywbeth i bawb, o blant i oedolion i deuluoedd ac i ddysgwyr. Bydd sesiynau yoga a dawns, ysgrifennu creadigol a barddoni yn ogystal â choginio a sgyrsiau difyr gan Huw Brassington a Twm Elias.

Dywedodd Ifan Llewelyn Jones o Hunaniaith:

“Rôl Menter Iaith fel Hunaniaith ydi hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg fel cyfrwng hamddena ac adloniant i bwy bynnag sy’n ei siarad neu ei dilyn. Tipyn o her fu parhau a’n gwaith dros gyfnod y pandemig ond mi ydym wedi sylweddoli fod cynnig gweithgareddau ar-lein fel hyn yn cyrraedd cynulleidfaoedd newydd”.

“Mantais arall fu i ni droi at sefydliadau blaenllaw fel Nant Gwrtheyrn, sydd ar riniog ein drws i gydweithio mewn modd sy’n elwa ni’n dau. Dwi’n llawn hyder y bydd y cydweithio’n parhau unwaith y bydd amgylchiadau yn sefydlogi wedi’r cyfnod heriol yma.”

Ychwanegodd Ceri Brunelli Williams, Rheolwr Cyfathrebu Nant Gwrtheyrn:

“Fel pob sefydliad arall yng Nghymru, ‘addasu’ ydi gair y flwyddyn. Gan nad yw’n bosib cynnal digwyddiadau ar y safle ar hyn o bryd, rhaid addasu a meddwl beth allwn ni gynnig i bobl ar-lein, sydd hefyd yn hybu ac yn cefnogi’r iaith Gymraeg”.

“Rydym wedi gweld cynnydd aruthrol dros y misoedd diwethaf yn y cynnwys a’r arlwy sydd ar gael yn ddigidol drwy gyfrwng y Gymraeg. O bodlediadau i ddigwyddiadau rhithiol, mae bwrlwm a gwirioneddol diddordeb yn yr iaith i weld yn glir ar-lein ac rydym yn hynod o falch o allu ymuno a chyfrannu at y bwrlwm hwn drwy gyd-weithio gyda Hunaniaith.

“Gobeithio bydd y diwrnod yn dod ag ychydig o hapusrwydd ac adloniant Cymraeg i gartrefi pobl ar draws Gymru yn ystod y cyfnod clo.”

I weld mwy o fanylion am y digwyddiad neu i gofrestru ar gyfer sesiwn benodol ewch i: www.amam.cymru/gwylnantiaith