Mae’r Mentrau Iaith a Theatr Genedlaethol Cymru yn falch o gyhoeddi eu bod yn cynnal Clwb Theatr Cymru eto eleni er mwyn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd creadigol a hybu sgiliau perfformio i blant ledled Cymru dros yr haf.

Bydd Clwb Theatr Cymru yn dod â phlant Cymru ynghyd i fwynhau amrywiaeth o weithdai dros Zoom yn ystod gwyliau’r haf. Bydd y sesiynau – sy’n cael eu trefnu gan Theatr Genedlaethol Cymru ac yn cynnwys cyfleoedd i ddawnsio, perfformio a chreu cymeriadau – yn addas i blant ysgolion cynradd o flynyddoedd 2 i 6.

Cafodd Clwb Theatr Cymru ei gynnal am y tro cyntaf ym mis Awst y llynedd, gyda’r cyfyngiadau Covid-19 yn golygu nad oedd clybiau haf i blant yn gallu digwydd. Profodd y clwb yn llwyddiant gan roi cyfle i 118 o blant o bob cwr o Gymru fwynhau â’i gilydd.

Dywed yr actor Ffion Wyn Bowen, un o’r arweinwyr yng Nghlwb Theatr Cymru 2020;

“Beth o’n i wedi wir mwynhau gweld yn ystod y sesiwn oedd y ffordd oedd y plant yn teimlo’n rhydd. Yn amlwg, achos bod nhw yn eu cartrefi nhw yn gallu symud, yn gallu archwilio, yn gallu agor y dychymyg a teimlo’n saff. Weithiau, falle beth sy’n digwydd mewn sesiwn drama yw bod chi’n dod yn ymwybodol bod plentyn yn sylwi bob pobl yn edrych arnyn nhw a mynd yn hunan-ymwybodol ac falle rhywfaint yn ansicr. Felly doedd dim o’r problemau yna.”

Mae’r Mentrau Iaith yn awyddus i gynnal gweithgareddau lu trwy’r flwyddyn i sicrhau bod plant ym mhob cwr o Gymru yn cael y cyfle i fwynhau defnyddio’r Gymraeg tu allan i’r ysgol.

Dywed rhiant un o’r rhai gymerodd ran y llynedd;
“Through lockdown I was conscious that she wasn’t speaking as much Welsh as she should, and I checked the Menter Iaith site and saw the drama classes. It was a lifeline because both my husband and I were working from home we just didn’t have the time through the day to spend with the children. To know that she had at least one hour of speaking Welsh with other like-minded people and that kept her entertained and stopped us feeling so guilty.”

Mae’r sesiynau yn rhad ac am ddim ond bydd angen cofrestru cyn Gorffennaf 16 trwy’r Fenter Iaith leol.