Mae’r Mentrau Iaith yn gweithio’n agos gyda’r maes cerddoriaeth boblogaidd Cymraeg ar hyd y flwyddyn, o redeg clybiau a sesiynau cerddorol i drefnu digwyddiadau a gwyliau, dyma gip ar rai o brosiectau cerddorol y Mentrau Iaith:

Digwyddiadau a gwyliau:

Mae’r Mentrau Iaith yn trefnu a chydlynu gwyliau a digwyddiadau cerddorol dros Gymru drwy gydol y flwyddyn. O werin i bop, maent yn codi ymwybyddiaeth o wahanol genres o gerddoriaeth sy’n cael ei berfformio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Datblygu bandiau:

Er mwyn cael sin gerddoriaeth Gymraeg mae angen cerddorion Cymraeg. Mae’r Mentrau Iaith yn rhan ganolog o ddatblygu bandiau ifanc drwy wahanol gynlluniau sydd yn gweithio gydag unigolion i ddatblygu sgiliau fel perfformio, ysgrifennu caneuon a chodi hyder yn Gymraeg.

https://soundcloud.com/bocswn

Datblygu hyrwyddwyr ifanc:

Mae sawl cynllun gan y Mentrau Iaith sy’n gweithio gyda pobl ifanc a grwpiau yn ein cymunedau i roi’r sgiliau sydd eu hangen i bobl leol allu trefnu a hyrwyddo gigs yn eu hardaloedd lleol.

Rhannu cerddoriaeth Gymraeg:

O ddysgu clasuron Cymraeg ar iwcalele neu wrando ar y gerddoriaeth ddiweddaraf ar y sianel radio lleol, mae sawl ffordd o rannu cerddoriaeth Gymraeg gyda phobl.

Ydych chi eisiau cynnal digwyddiad cerddorol yn eich ardal? Cysylltwch gyda’ch Menter Iaith am sgwrs i weld os gallwn, gyda’n gilydd, greu digwyddiad cyffrous a chroesawgar.

I ddysgu mwy am Dydd Miwsig Cymru ac i wrando ar gerddoriaeth Gymraeg cliciwch yma.