Eleni roedd Ras yr Iaith gyntaf wyneb yn wyneb eto ers 2018! 2,255 o blant, 56 o ysgolion mewn 11 tref yng Nghymru oedd yn rhedeg dros y Gymraeg ac yn mwynhau'r diwrnod yn yr haul. https://youtu.be/BN3BUu2yjTo Ras yr Iaith 2023
Newyddion
Menter Iaith Merthyr Tudful yn dod a hanes Dic Penderyn yn fyw
Ar nos Wener, 21ain o Fedi bydd perfformiad cyntaf o sioe newydd sbon ymlaen yn Theatr Soar, sef sioe Dic Penderyn: Arwr y Bobl Gyffredin! Dyma gynhyrchiad sydd wedi cael ei greu ar y cyd rhwng Cwmni Theatr Mewn Cymeriad a Menter Iaith Merthyr Tudful o ganlyniad i...
Dathlu’r Gymraeg mewn Gŵyl Newydd yng Nghasnewydd
Heddiw yw cychwyn wythnos o ddigwyddiadau yn rhan o ŵyl Gymraeg Casnewydd o’r enw Gŵyl Newydd a fydd yn digwydd yn Llys Malpas, Casnewydd ar ddydd Sadwrn Medi’r 15fed rhwng 12 a 4 y prynhawn. Gyda nifer o wyliau celfyddydol a cherddorol ar hyd a lled Cymru erbyn hyn,...
Menter Caerdydd yn dathlu 20!
Er mwyn dathlu penblwydd y fenter yn 20ain oed, mae Menter Caerdydd yn edrych yn ôl ar rai o uchafbwyntiau’r Gymraeg yn y brif ddinas ers 1998. Ewch i wefan Menter Caerdydd i ddarganfod mwy. Fel rhan o'r dathliadau mae nhw hefyd yn rhannu llun o archifau'r fenter ar...
Trafod Gwirfoddoli ar y cyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol
Fel rhan o bresenoldeb y Mentrau Iaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mae Caerdydd eleni, mae Mentrau Iaith Cymru, WCVA a Chomisiynydd y Gymraeg yn cynnal digwyddiad banel i drafodd rol gwirfoddolwyr at gryfhau'r Gymraeg yn ein cymunedau. Mae'r digwyddiad yn rhan o...
Cydweithio ar gynllun Marchnad Lafur Cymraeg – hwb i’r Gymraeg a’r economi drwy fentrau cymunedol
Mewn gweithdy arbennig a gynhelir yng Nghaernarfon ar Fehefin 28ain, bydd cyfle i drafod rôl y Gymraeg mewn mentrau perchnogaeth gymunedol a sut all hynny gryfhau economi’r wlad. Mae rhai o'r Mentrau Iaith dros Gymru yn arwain y gad ar hybu'r Gymraeg a'r economi trwy...
Mentrau’n lawnsio pecyn hybu’r Gymraeg ar gyfer fferyllfeydd
Ddydd Mercher, 13eg o Fehefin yn Fferyllfa Morrisons Bangor cafodd pecyn hybu’r Gymraeg ar gyfer fferyllfeydd Gwynedd yn cael ei lawnsio’n swyddogol. Ffrwyth llafur cydweithio rhwng Hunaniaith (Menter iaith Gwynedd), Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Menter...
Gwirfoddoli gyda’r Fenter Iaith
Ydych chi eisiau gwirfoddoli gyda Menter Iaith yn eich ardal chi? Dyma brofiad Elena sy'n gwirfoddoli gyda Menter Iaith Sir Ddinbych. Enw: Elena Brown Oed: 19 O le? Dinbych Pam wnes di wirfoddoli gyda Menter Iaith? Roeddwn i eisiau datblygu fy sgiliau ym mhellach a...
Cynefin Cymraeg: Mentrau’n cydweithio i gynyddu hyder siaradwyr Cymraeg ym maes Awyr Agored
Yr haf yma bydd dwy o Fentrau Iaith y gogledd, ar y cyd gyda phartneriaeth amgylcheddol yn trefnu cyfres o deithiau maes fydd yn cynyddu hyder siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio mwy ar y Gymraeg yn eu gwaith yn y sectorau amgylcheddol ac awyr agored. Rhwng Mehefin a...
LANSIO LLYFRYN ENWAU LLEOEDD BRYCHEINIOG A MAESYFED
Bydd Menter Brycheiniog a Maesyfed yn lansio llyfryn Enwau Lleoedd Brycheiniog a Maesyfed ddydd Gwener, Mehefin 1af, ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Llanelwedd. Er mwyn croesawu Eisteddfod yr Urdd i’r ardal ym mis Mai, 2018 mae Menter Brycheiniog a Maesyfed wedi...
Llyfryn Gwyliau a Gigs y Mentrau Iaith 2018
Eto eleni, mae'r Mentrau Iaith yn trefnu a chefnogi llu o wyliau a gigs cerddorol i deuluoedd, plant a phobl ifanc dros Gymru. Maent wedi eu casglu i'r llyfryn yma. Beth am edrych i weld os oes digwyddiad yn eich ardal chi? Un o'r gwyliau sy'n cael eu trefnu...