Mae’r gyfres lwyddiannus o deithiau tywys ‘Ar Droed’ yn parhau.
Newyddion
Cydweithio i rannu hanes cymeriadau Cymru
Ar Fai 18fed bydd Menter Iaith Conwy a chwmni Mewn Cymeriad yn cyflwyno sioe hwyliog yn dod a stori hanesyddol o oes Llywelyn Fawr yn fyw i deuluoedd. Fel rhan o ddigwyddiad Dathlu Treftadaeth Llanrwst yn y dref, mae’r fenter iaith wedi comisiynu’r sioe un-dyn Cymraeg...
Adnodd gwerthfawr i dwf y Gymraeg yn y De Ddwyrain
Mae Menter Iaith Blaenau Gwent Torfaen a Mynwy wedi lansio ei gwefan newydd sbon yr wythnos hon fydd yn cyflwyno gwybodaeth eang a chynhwysfawr am weithgareddau trwy’r Gymraeg yng nghymunedau’r de ddwyrain. Yn ogystal â darparu gwybodaeth am addysg cyfrwng Cymraeg,...
Y parti yn esblygu yn RhCT!
Fydd Parti Ponty @ Rhondda Cynon Taf mwy anhygoel ac yn fwy nag erioed o’r blaen, yn cynnwys mwy o ddigwyddiadau i bobl o bob oedran i fwynhau. Yn dilyn llwyddiant Parti Ponty 2018 gyda 16,000 o ymwelwyr, 62 o ddigwyddiadau a 490 o bobl y gymuned ac ysgolion yn...
Dathlu’r Pasg yn Gymraeg
Sut fyddwch chi'n dathlu'r Pasg eleni? Helfa wyau? Cinio Sul mawreddog gyda'r teulu? Beth bynnag byddwch yn ei wneud, cofiwch wneud yn Gymraeg. Beth am rannu'r darlun yma i annog eraill ddefnyddio ychydig o Gymraeg? Clapio Wyau Bydd Môn yn dathlu un o’i thraddodiadau...
Cymarfer- cynllun peilot newydd yn ardal Llangefni i gefnogi dysgwyr
Un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu dysgwyr Cymraeg ydy siarad efo Cymry Cymraeg. Am ryw reswm mae siaradwyr iaith gyntaf yn ei gweld yn anodd cefnogi dysgwyr. Mae’n ddirgelwch mawr pam bod Cymry’n newid i’r Saesneg ar ddim, neu’n teimlo’r angen i gywiro dysgwyr, neu...
Cyhoeddi Rhaglen Gŵyl Fach y Fro 2019!
Bydd Gŵyl Fach y Fro yn dychwelyd unwaith eto i Ynys y Barri, ac am y pumed flwyddyn yn olynol mae’n rhan bwysig o raglen digwyddiadau haf y Cyngor (Barry Island Weekenders). Bydd yr ŵyl eleni yn cael ei chynnal ar ddydd Sadwrn Mehefin 15fed, ac mae'r trefnwyr, Menter...
Cerdd yn Galon i’r Gymuned gyda Bocsŵn
Mae Richard Owen, o brosiect Bocsŵn, un o gynlluniau Menter Iaith Môn ar gennad i wneud cerddoriaeth yn ganolog i brofiadau'r ifanc a’r hŷn yng nghymunedau Môn. Uchafbwynt cwrs ukuleles i breswylwyr Hafan Cefni a mynychwyr o Heneiddio’n Dda oedd recordio eu cyflwyniad...
Galw am Ddarparwyr Hyfforddiant Cyfrwng Cymraeg
Un rhan o'n gwaith yw trefnu hyfforddiant i staff y 22 Mentrau Iaith, hynny mewn amrywiol feysydd o cymorth cyntaf i amddiffyn plant, o gynllunio ieithyddol i ddatblygu cymunedol, o GDPR i iechyd a diogelwch. Rydym yn awyddus i greu cofrestr o'r hyfforddiant...
Grantiau i Wyliau Cymunedol Cerddorol Cymraeg
Mae MIC yn edrych i hybu gwyliau cymunedol gyda phwyslais ar gerddoriaeth boblogaidd Cymraeg drwy gynnig cefnogaeth ariannol i sefydliadau a grwpiau lleol. Bydd grantiau hyd at £5,000 ar gael i’w cynorthwyo gyda’r gwaith o drefnu a chynnal gweithgaredd sy’n cyfrannu...
Tafwyl a Pyst yn Cynnal Noson Arbennig yng Nghastell Caerdydd
Bydd Tafwyl yn agor ei drysau am noson ychwanegol eleni ar ôl ymuno â’r label dosbarthu a hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg, PYST, i gyflwyno noson o gerddoriaeth, celfyddydau a bwyd stryd yng Nghastell Caerdydd ar nos Wener 21 Mehefin, 2019. Gyda mynediad am ddim, bydd y...