Ers 10 mlynedd bellach rydym yn dathlu diwrnod Shwmae / Su’mae a’r Gymraeg ar y 15fed o Hydref. Sut wyt ti’n dathlu eleni? Dyma rai gweithgareddau mae’r Mentrau Iaith yn eu cynnal. Cerddoriaeth13/10 – Sesiwn Werin Tŷ Tawe am 7yh13/10 – Gig Bwncath, Canolfan...
Newyddion
Cydnabod Datblygu Cymunedol
Mae cymunedau yng nghalon y Mentrau Iaith, gyda phob Menter yn gweithio'n agos gyda'u cymunedau lleol i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg drwy amryw ffordd. Hoffai’r Mentrau Iaith gyhoeddi enwau’r 3 prosiect sydd wedi cyrraedd rhestr fer yng Ngwobrau’r Mentrau Iaith: ...
Anrheg Di-dâl Selog i Deuluoedd a Dysgwyr Cymru!
Rhowch y Gymraeg yn yr hosan ’Dolig a mwynhewch y Gymraeg adref dros y gwyliau yw’r neges gan Menter Iaith Môn i deuluoedd Cymru, wrth lansio cyfres newydd Selog o apiau ‘Ioga’, ‘Canu 2’ a ‘Symud’ yn yr awyr agored. Bu ymateb gwych eisoes i dreialu’r ap ‘Ioga Selog’...
Y Mentrau Iaith yn Gwobrwyo Gwaith Arbennig Gwirfoddolwyr
Fel mudiadau cymunedol, mae'r Mentrau Iaith yn cael eu harwain gan aelodau gwirfoddol o'r gymuned sy'n rhoi o'u hamser yn hael er mwyn y Gymraeg a'u cymunedau. Heb ein gwirfoddolwyr - y rhai sy'n helpu'n achlysurol, yn arwain clybiau neu'n gyfarwyddwyr - ni fyddai...
Menter Iaith Sir Caerffili ar restr fer Gwobrau Elusennau Cymru
Mae Menter Iaith Sir Caerffili wedi cyrraedd y rhestr fer olaf ar gyfer y wobr Defnydd Gorau o’r Gymraeg yng Ngwobrau Elusennau Cymru 2019, a gynhelir ar 15 Tachwedd. Mae Gwobrau Elusennau Cymru yn gynllun newydd sbon gan CGGC sy'n cydnabod ac yn dathlu'r cyfraniad...
Datblygu Cymunedau Dwyieithog yn y Gogledd Ddwyrain
Eleni mae swyddogion newydd wedi eu penodi ym Menter Iaith Fflint a Wrecsam a Menter Iaith Sir Ddinbych er mwyn helpu cymunedau i sefydlu grwpiau cymunedol neu gynnig cymorth i grwpiau sydd eisoes yn bodoli. Diben y prosiect yw annog grwpiau i gynnal digwyddiadau er...
Cloncian i ymarfer Cymraeg
Mae grwpiau ymarfer i ddysgwyr yn ymddangos ar hyd a lled y wlad, gyda'r Mentrau Iaith yn ganolog i fwyafrif y clybiau clonc yma. Creu cyfleoedd anffurfiol a chysurus i bobl o bob oed ddefnyddio'r Gymraeg heb feirniadaeth, a chreu sefyllfaoedd i gynyddu hyder i...
Tafwyl 2020 – Cyhoeddi Dyddiad a Chartref Newydd
Mae Menter Caerdydd yn falch o gyhoeddi ar ôl llwyddiant ysgubol y digwyddiad eleni, bydd Gŵyl Tafwyl 2020 yn cael ei chynnal dros benwythnos 19 – 21 o Fehefin 2020; ac yn symud i gartref newydd ym mhrydferthwch Parc Bute, dafliad carreg tu ôl i Gastell Caerdydd....
Ar eich Marciau – Hybu’r Gymraeg yng Nglybiau Chwaraeon Ceredigion
Ydych chi’n aelod o glwb chwaraeon yng Ngheredigion? Mae Cered a Ceredigion Actif am i chi ffurfio tîm i gynrychioli eich clwb yng nghystadleuaeth cwis newydd sbon i glybiau chwaraeon y sir o’r enw “Ar Eich Marciau”. Cwis chwaraeon dwyieithog wedi'i anelu at oedolion...
Dathlu Diwrnod Shwmae Sumae 2019
Ar Hydref 15fed, 2019 bydd pobl dros Gymru gyfan yn cyfarch eu gilydd gyda Shwmae neu Su'mae a'n annog eraill i roi tro arni. Dyma 7fed Diwrnod Shwmae Su'mae, diwrnod cenedlaethol sydd yn dathlu’r Gymraeg, drwy annog a rhoi hyder i bobol i ddechrau bob sgwrs yn...
Cefnogi Cymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd
Fel rhan o ymgyrch y Mentrau Iaith, mae aelodau o garfan Cymru i Gwpan Rygbi’r Byd wedi gosod addewid i’r Gymraeg wrth ganu’r geiriau ‘O Bydded i’r Heniaith Barhau’. Bydd cannoedd ar filoedd yn canu’r geiriau hyn yn gyson wrth gefnogi’r tîm cenedlaethol ond mae’n...