Beth am her newydd? Mae Mentrau Iaith Cymru (MIC) yn edrych am unigolyn i arwain, rheoli, ysbrydoli a datblygu eu tîm bach. Mae angen person brwdfrydig sy'n gallu gweithio'n effeithiol i gynnig arweiniad, cyngor a chefnogaeth ragweithiol i MIC, Pwyllgor...
Newyddion
*Swyddi* – Swyddog Prosiect Gwreiddiau Gwyllt x 2 – wedi penodi
Hoffet ti weithio gyda mudiadau sy'n hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg yn y gymuned? Bydd y cynllun yn codi ymwybyddiaeth, gwarchod ac hyrwyddo enwau a thermau Cymraeg ym myd natur trwy ddefnyddio a chreu adnoddau i'n cymunedau. Hysbyseb, Ffurflen gais a swydd ddisgrifau...
Dyma’r manylion i ti brynu dy docyn NAWR!
MIS MAWRTH 25 - Y Clwb, Llanrwst ( +Bitw) - Tocyn YMA 31 - Iorwerth Arms, Bryngwran (+ Hyll) Ffonia: 01248 725 700 MIS EBRILL 1 - Cell B, Blaenau Ffestiniog (+ Hyll) - Tocyn YMA 2 - Neuadd Gymuedol, Penybont Fawr (+Hyll) - Siop Eirianfa /...
Mentrau Iaith yn Dathlu Gŵyl Ddewi
Mawrth 1af yw diwrnod dathlu nawddsant Cymru, Dewi Sant a bydd y Mentrau Iaith reit yng nghanol y dathliadau ar hyd a lled Cymru y diwrnod hwnnw – ac hefyd ar y diwrnodau yn dilyn. A fydd parêd drwy ganol dy dref lleol di? Bydd llawer o Fentrau Iaith yn rhan o...
Cyfle i ddysgwyr ddarganfod Cymru ‘Ar Droed’ eto eleni
Dros y misoedd nesaf, bydd y Mentrau Iaith ar y cyd â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cynnal dwy gyfres newydd o deithiau tywys ‘Ar Droed’ mewn lleoedd arbennig yng Nghymru ar gyfer siaradwyr Cymraeg– hen a newydd. Yn dilyn llwyddiant teithiau natur ‘Ar...
Dydd Miwsig Cymru
Bydd Chwefror 10fed yn atseinio o gerddoriaeth ar hyd a lled Cymru a bydd y Mentrau Iaith yn ei chanol hi yn dathlu Dydd Miwsig Cymru. Mor braf yw gallu cynnal gigs a chyngherddau ac i gael plant o bob oed fwynhau cerddoriaeth Gymraeg ar eu stepen drws, ac...
MENTRAU IAITH CYMRU A PYST YN LANSIO CYLCHDAITH GIGS NEWYDD
Mae Mentrau Iaith Cymru a PYST wedi cyhoeddi eu bod am gydweithio i lansio a datblygu cylchdaith gigs newydd ar gyfer artistiaid Cymraeg. Bydd y daith gyntaf yn digwydd yn y Gwanwyn. Nôd y gylchdaith yw cynnig cyfleon i artistiaid deithio Cymru gyda’r pwyslais ar...
Dathlu’r Mentrau Iaith
Daeth swyddogion gweithgar y Mentrau Iaith at ei gilydd mewn dathliad ar Ionawr 26ain eleni - noson er mwyn dathlu gwaith y Mentrau ym mhob cwr o Gymru. Bu i griw Mentrau Iaith Cymru drefnu’r noson gyda chydweithrediad Radio Cymru 2 gyda dau o’u cyflwynwyr,...
Dysgu canu “Yma o Hyd” a dysgu am hanes Cymru
Dysgu canu "Yma o Hyd" Mae'r gân anthemig "Yma o Hyd" sy' bellach wedi dod yn anthem i dîm pêl-droed Cymru yn sôn am heriau i Gymru a'r Gymraeg yn hanes y wlad ac mae'n rhoi gobaith hefyd - ry'n ni yma o hyd wedi'r cyfan! Mae'r Mentrau Iaith yn cefnogi cwmni...
Peintio Cymru’n goch gyda murluniau pêl-droed
I ddathlu tîm pêl-droed Cymru a’i lwyddiant o gyrraedd Cwpan y Byd Pêl-droed, mae’r Mentrau Iaith yn cyhoeddi cyfres o furluniau ar draws Cymru. Mae’r murlun cyntaf gyda Joe Allen yn Arberth eisoes wedi cael tipyn o sylw gyda rhieni Joe Allen ei hunain yn rhoi sêl...
Ar Droed – Cerdded gyda Iolo Williams
Bu'r Mentrau Iaith gyd-weithio gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg dros fisoedd y gwanwyn a'r haf yn cynnig teithiau cerdded ar hyd a lled Cymru gyda neb llai na'r naturiaethwr enwog Iolo Williams yn arwain ar bedair ohonynt. Roedd y teithiau yn cynnig cyfleoedd i bobl...