Mae Theatr Soar, sef cartref Menter Iaith Merthyr Tudful wedi ymuno â Neuadd Les Ystradgynlais, Neuadd y Dref Maesteg a Theatr na nÓg i sefydlu cydweithrediad newydd sef Y Consortiwm Cymraeg.

Y bwriad yw cyflwyno theatr Gymraeg ei hiaith o ansawdd uchel sy’n hygyrch i bawb. Maen nhw’n anelu at gynhyrchu rhaglen i gymunedau gyfranogi ynddi i wella eu sgiliau iaith a hefyd meithrin perthynas â’r celfyddydau a diwylliant ar stepen eu drws ac ailgynnau bywiogrwydd a gwerth y lleoliadau hyn yn eu cymunedau.

Caiff y Consortiwm newydd ei gefnogi gan Grant Cysylltu a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru. Gan fod canolfannau diwylliannol wedi wynebu’r cyfnod clo, bu’r angen am hwb creadigol oddi fewn i gymunedau’n fwy nag erioed, nid yn unig er mwyn diogelu dyfodol y Gymraeg yn y cymoedd, ond hefyd i gefnogi cymuned ffyniannus y cymoedd y tu hwnt i Bandemig Covid-19.

Cydweithrediad cyntaf y Consortiwm yw cyfieithiad ac addasiad o’r comedi clasurol Shirley Valentine gan Willy Russel. Cafodd y ddrama ei chyfieithu’n wreiddiol gan Manon Eames; yn y fersiwn hon gwelwn Shirley yn cael ei chludo o Lerpwl i Dde Cymru. .

Dywed Lis Mclean, Prif Swyddog Menter Iaith Merthyr Tudful:

“Mae’r fenter hon yn wirioneddol ysbrydoledig. Mae Theatr Soar wedi bod eisiau datblygu Theatr Gymraeg ei hiaith a chodi dyheadau a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn ein cymuned ers amser hir bellach. Cafodd hyn ei wneud yn bosibl drwy weithio mewn cydweithrediad ag eraill sy’n rhannu’r un gwerthoedd a gweledigaeth. Mae’r Consortiwm Cymraeg yn ymgorfforiad o’r hyn y mae Theatr Soar yn sefyll drosto.”

Bydd addasiad y Consortiwm o Shirley Valentine yn mynd ar daith o gwmpas lleoliadau’r Consortiwm a ledled Cymru ym mis Medi 2021, gan agor yn Theatr Soar. Er mwyn derbyn y diweddaraf ewch i www.theatrnanog.co.uk