Mae’r gantores, Mared Williams o’r band Y Trwbz wedi gweld cefnogaeth y fenter iaith leol yn amhrisiadwy.

“Rydw i mewn cyswllt cyson â Menter Iaith Sir Ddinbych ac maen nhw’n wych yn hyrwyddo ein gigs a’n digwyddiadau, a digwyddiadau cerddoriaeth Gymraeg eraill. Roedd y Fenter yn gefnogol iawn i’r Trwbz pan oeddem am drefnu gig lansio yn 2015 yn Theatr Twm o’r Nant yn Ninbych. Fe wnaeth y Fenter ein helpu ni i drefnu, hyrwyddo a marchnata. Maen nhw’n gwneud gwaith gwych yn hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg yn yr ardal. “

Fe wnaeth Mared, sydd wedi bod yn canu ar lwyfan mewn eisteddfodau ers yn ifanc, gyfarfod â’i chyfeillion band yn yr ysgol. Roedd cyfleoedd gan Radio Cymru, a chystadleuaeth Brwydr y Bandiau a noddwyd gan Fentrau Iaith Cymru yn 2015, wedi helpu Y Trwbz i lwyddo yn y sin. Mae Mared bellach wedi dechrau perfformio fel artist unigol, gan ryddhau sengl newydd cyn y Nadolig gyda pherfformiadau teledu ar raglenni S4C fel Heno ac Y Gig Fawr ym mis Rhagfyr.

Fel rhan o’i hastudiaethau ym Mhrifysgol Leeds, mae Mared yn ysgrifennu traethawd hir ar bwysigrwydd cerddoriaeth Gymraeg mewn cymunedau, lle mae gwaith y Mentrau Iaith yn hanfodol. Dywed;

“Rydw i wedi bod yn casglu gwybodaeth ddiddorol iawn ar gyfer fy nhraethawd, gan ystyried safbwyntiau gwahanol ac onglau am gerddoriaeth Gymraeg a’i chyfraniad at gymunedau. Roedd cerddoriaeth Gymraeg yn rhan mor bwysig o’m mhlentyndod dwyieithog, ac mae wedi llunio fy mywyd ers hynny. “

Gydag aelodau Y Trwbz yn astudio mewn gwahanol ddinasoedd ledled y DU, maen nhw’n mwynhau dod yn ôl at ei gilydd i berfformio pan fo modd. Meddai Mared;

“Pan fyddwn ni’n cael cynnig gig mewn mannau fel yr Eisteddfod Genedlaethol neu yn y clwb rygbi lleol, rydym yn falch iawn o chwarae ac yn falch derbyn y gwahoddiad. Rydw i’n symud i Lundain ym mis Medi i astudio MA mewn Perfformio Sioe Gerdd, ond rwyf bob amser wrth fy modd yn dod adref am y penwythnos a dros y gwyliau i ganu.”

Mared Williams yn Y Trwbz - Llun gan Dewi Glyn Jones

Mared Williams yn Y Trwbz – Llun gan Dewi Glyn Jones