Mae canfyddiadau adroddiad diweddar yn dangos bod datblygiad Canolfan Soar wedi arwain at draweffaith gref ar yr economi leol ym Merthyr Tudful.

Cyfrannodd y Ganolfan £594,100 – £608,537 i’r economi leol yn 2014 ac amcangyfrifir mai cyfanswm y traweffaith economaidd a grëwyd gan Ganolfan Soar o fewn economi de Cymru yw £1.29 – £1.30 million.

Drwy ddarparu gofod ar gyfer busnesau lleol, mae Canolfan Soar a’i denantiaid yn cyfrannu tuag at ddatblygu’r seilwaith economaidd lleol cadarn sy’n cynnig cyfleoedd i’r gymuned ddod at ei gilydd i fyw, dysgu a mwynhau’r Gymraeg.

Mae’r Ganolfan wedi datblygu’n bartner allweddol ar gyfer adfywiad economaidd ac amgylcheddol ar draws ardal Portmorlais ym Merthyr Tudful. Mae datblygiad Canolfan Soar wedi cyd-blethu â rhaglenni adfywio lleol ac mae’r Ganolfan yn darparu lleoliad i bobl gwrdd, dysgu, cymdeithasu ac ymgysylltu ag addysg a’r celfyddydau.

Mae’r pwyslais cryf ar etifeddiaeth ieithyddol a diwylliannol Merthyr Tudful wedi bod yn elfen hanfodol o draweffaith y Ganolfan. Mae’r Ganolfan wedi ymgysylltu’r gymuned Gymraeg â’r gymuned ehangach. Mae’r Ganolfan yn ganolbwynt i’r Gymraeg yn yr ardal ac mae wedi cyfrannu’n sylweddol at godi proffil yr iaith.

Dywedodd Lisbeth McLean, Prif Swyddog Menter Iaith Merthyr Tudful:

“Rydyn ni mor falch o’r cyfraniad mae Canolfan Soar yn wneud yn ein cymuned. Mae’r astudiaeth yma yn fesuriad o draweffaith economaidd a diwylliannol gall cael ei ddefnyddio i ddangos gwerth am arian er mwyn denu mwy o arian i ddatblygu’r Gymraeg. Rydym nawr yn gallu profi bod yr iaith Gymraeg yn adfywio cymunedau ac yn werth buddsoddi ynddi.”

Ewch i wefan Canolfan Soar i glywed mwy am ei gwaith neu gysylltwch â Menter Iaith Merthyr Tudful am wybodaeth bellach.