Ydych chi’n aelod o glwb chwaraeon yng Ngheredigion? Mae Cered a Ceredigion Actif am i chi ffurfio tîm i gynrychioli eich clwb yng nghystadleuaeth cwis newydd sbon i glybiau chwaraeon y sir o’r enw “Ar Eich Marciau”.

Cwis chwaraeon dwyieithog wedi’i anelu at oedolion yw Ar Eich Marciau er mwyn hybu’r Gymraeg ymysg clybiau chwaraeon Ceredigion mewn ffordd hwyliog a chynhwysol. Mae croeso cynnes i glybiau o ba bynnag gamp gystadlu gan fod y cwestiynau yn amrywiol iawn sydd felly’n gyfle prin i dynnu clybiau o wahanol gampau at ei gilydd i gymdeithasu.

Mae 15 clwb eisoes wedi cofrestru gyda thair rownd ardal ar gyfer gogledd, canol a de Ceredigion yn ystod mis Hydref.

  • Rownd Canol Ceredigion – Clwb Rygbi Aberaeron – Hydref 11eg – 7.30 y.h.
  • Rownd De Ceredigion – Clwb Bowlio Aberteifi – Hydref 18fed – 7.30 y.h.
  • Rownd Gogledd Ceredigion – Clwb Rygbi Aberystwyth – Hydref 25ain – 7.30 y.h.

Bydd y buddugwyr yn cystadlu yn y Rownd Derfynol yng Nghlwb Rygbi Aberaeron ar Dachwedd 1af am 7.30 y.h. Pob lwc i’r timau.

Ar eich amrciau dyddiad gogledd newydd poster