Ym mis Ionawr 2016 cafodd dau ap Cymraeg ail iaith RHAD AC AM DDIM eu lansio gan Gangen Adnoddau’r Gymraeg mewn Addysg Llywodraeth Cymru a Splinter Design, er mwyn hyrwyddo ac annog dysgwyr i ddefnyddio’r iaith Gymraeg.

Mae’r gêmau, a ddatblygwyd ar gyfer athrawon a disgyblion cynradd ac uwchradd, yn cynnwys themâu cwricwlaidd ac yn dod gyda nodiadau gwersi.

Mae’r gêmau wedi eu seilio ar chwedlau o Gymru. Mae Guto Nyth Brân (CA1/2), yn dathlu’r athletwr chwedlonol o ardal Pontypridd yn y 18fed ganrif, ac mae Dreigiau Dinas Emrys (CA3/4)1 yn portreadu Gwrtheyrn, brenin y Brythoniaid yn y 5ed ganrif, a dwy ddraig ddrygionus.

Mae’r chwarae yn hwyliog, y cymeriadau yn nwyfus a lleisio hyfryd yr actor Llŷr Ifans1 yn sicrhau y bydd yr ap yn annog plant i ddefnyddio’r iaith Gymraeg. I blant cynradd, mae’r dysgu yn dod yn fyw gyda chymorth ysgyfarnog anferth sy’n siarad ac yn eich helpu i sillafu! I’r oedran uwchradd, mae dreigiau yn eich sbarduno i sillafu o fewn amser prin er mwyn arbed y wal rhag disgyn.

Datblygwyd y gêmau mewn cydweithrediad â: Llywodraeth Cymru, arbenigwyr iaith Gymraeg, dylunwyr a datblygwyr Splinter Design3 a Red Ninja a disgyblion ac athrawon o amryw ysgolion o ar draws Cymru.

O fewn yr aps mae: lefelau hawdd, canolig ac anodd i weddu i amrywiaeth gallu, cynnwys gogleddol a deheuol, wedi ei ysgrifennu a’i werthuso bob cam o’i ddatblygiad gan athrawon CA1-CA4.

Datblygwyd yr aps i safonau addysgol a safonau dylunio o’r radd flaenaf, a chawsant eu pwyso a’u mesur a’u gwerthuso yn fanwl gan baneli o arbenigwyr iaith a dysgu, yn ogystal â’u treialu a’u trafod gan ddisgyblion o bob oed yn Ngogledd a De Cymru.

Chris Beer, Meddai Cyfarwyddwr Rheoli Splinter:

“Mae’r sbardun i ddysgu, y cymeriadau cŵl, y rhestrau geirfa ailadroddus a’r profiad chwarae hwyliog wedi cyfuno yn llwyddiannus iawn. Wrth dreialu, boddhawyd y tîmau a’r ysgolion gan y cydbwysedd rhwng difyrrwch a dysgu.”

Ariannwyd yr aps yn rhannol gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’i rhaglen gomisiynu adnoddau addysgu a dysgu Cymraeg a dwyieithog.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Rachael Boden neu Chris Beer yn Splinter Design ar Tel: 0151 709 9066 neu ebost: Rachael.boden@splinter.co.uk neu chris.beer@splinter.co.uk