Cyn hir bydd gan rieni o Lanfairfechan i Fae Cinmel fynediad i ofal plant cyfrwng Cymraeg ar eu trothwy’n ardal arfordirol Sir Conwy.

Bydd Meithrinfa Gymraeg Derwen Deg yn cael ei sefydlu yng Nghyffordd Llandudno ac yn cynnig gofal plant llawn amser oll drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Menter Iaith Conwy wedi bod yn datblygu’r cynllun ers 2010 a thrwy gydweithio â rhiant lleol o Ddeganwy maent wedi llwyddo i dynnu arian digonol i wireddu’r syniad.

Dywedodd Eirian Pierce Jones, Swyddog Mentrau Cymdeithasol Cymraeg gyda Menter Iaith Conwy:

“Rydym wedi derbyn sawl ymholiad gan rieni o ardal arfordirol Conwy dros y blynyddoedd yn holi am ddarpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg yn eu hardal ond yn anffodus nid oedd darpariaeth o’r fath yn bodoli.”

Ategodd Archwiliad Digonedd Gofal Plant blynyddol Gwasanaethau Addysg CBSC yr angen yma hefyd. Eglurodd Eirian i MIC dderbyn ymholiad am ofal plant cyfrwng Cymraeg yn yr ardal arfordirol gan Nia Owen o Ddeganwy sy’n fam i ddau ac yn gyfrifydd siartredig ac yn awyddus i sefydlu meithrinfa fel menter breifat.

Arweiniodd y cydweithio yma i gread menter gymdeithasol newydd o’r enw Meithrinfa Gymraeg Derwen Deg gyda rhieni lleol yn gyfarwyddwyr. Daeth dwy ffynhonnell grant ar gael yn ystod y cyfnod yma hefyd.  Yn gyntaf daeth arian gan Cyfenter a reolir gan Menter Môn ac yn arian Ewropeaidd gyda chyfraniadau gan bedwar Awdurdod Lleol

Gogledd Orllewin Cymru. Yn dilyn hyn daeth arian Cronfa Cymunedau’r Arfordir y Loteri Fawr. Anelir at agor y feithrinfa fis Ebrill neu Mai eleni.

Mae Menter Iaith Conwy wedi adnabod pwysigrwydd datblygu economaidd gyda’r iaith Gymraeg yn gwbl ganolog iddo. Bydd hyn yn creu cyfleoedd gwaith gyda’r Gymraeg yn sgil hanfodol ac yn creu swyddi i siaradwyr Cymraeg yn eu cymunedau. Mae Eirian eisoes yn edrych am gyfleoedd newydd drwy sir Conwy.

Mae’r rhieni sy’n gysylltiedig â’r fenter newydd yma’n hynod hapus bod ganddynt fynediad i ofal plant cyfrwng Cymraeg yn eu hardal nhw o’r diwedd.

MGDD

Dywedodd Gwyneth Hughes o Landudno, un o gyfarwyddwyr MGDD:

“Fel rhiant sy’n byw yn ardal arfordirol Conwy, credaf ei bod yn bwysig iawn i deuluoedd gael mynediad i ofal plant cyfrwng Cymraeg yn eu hardal leol. Mae llawer ohonom yn credu bod hyn yn fater mor bwysig i ni ddod at ein gilydd i ffurfio’r fenter a chreu meithrinfa newydd sbon fydd yn cael ei redeg yn gyfan gwbl drwy’r Gymraeg.”

Dywedodd Nia Owen o Ddeganwy, sydd wedi bod yn gatalydd i symud yr holl gynllun ymlaen gyda menter Iaith Conwy:

“Nid wyf wedi llwyddo i gael gofal plant llawn amser drwy’r Gymraeg i fy mhlant yn yr ardal a thrwy drafod â nifer o rieni eraill rwyf wedi darganfod bod gofyn mawr am y math yma o ddarpariaeth.”

Bydd MGDD yn edrych i gyflogi staff cyn hir â phan fydd y feithrinfa wedi ei sefydlu’n llwyr bydd lle i oddeutu 36 o blant. Dylai unrhyw un sydd â diddordeb yn y swyddi hyn neu sydd eisiau defnyddio’r feithrinfa i ofalu am eu plant gysylltu gydag Eirian Pierce Jones yn swyddfa Menter Iaith Conwy yn Llanrwst ar 01492 642357 neu drwy e-bost ar eirian@miconwy.org