Mae Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg, wedi cyhoeddi ei fod yn ymrwymo £400,000 i helpu mentrau bach a chanolig i fod yn fwy dwyieithog.

Amcan y cyllid hwn yw gwneud y Gymraeg yn fwy gweladwy yn y gymuned. Bydd y prosiect hefyd yn cynyddu dealltwriaeth ac yn creu cyfleoedd i gryfhau gwasanaethau dwyieithog i gwsmeriaid. Caiff yr arian ei ddyrannu i sefydlu rhwydwaith o ymarferwyr lleol i gynnig cymorth i fusnesau drwy’r Gymraeg.

Mae hwn yn ymrwymiad a nodwyd yn y strategaeth ar gyfer y Gymraeg a gyhoeddwyd yn ddiweddar -Cymraeg 2050 – strategaeth i gynyddu nifer y rheini sy’n siarad Cymraeg i filiwn, yn ogystal â chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg.

Ar hyn o bryd, mae Comisiynydd y Gymraeg yn gweithio gyda busnesau mawr a chwmnïau cenedlaethol i hybu a hwyluso’r defnydd o wasanaethau Cymraeg, gan gynnwys y sector cyllid ac archfarchnadoedd mawr. Bydd y rhwydwaith newydd hwn o ymarferwyr yn sicrhau bod cymorth ar gael i fentrau bach a chanolig a microfusnesau lleol i fod yn fwy dwyieithog.

Dywedodd Alun Davies:

“Y llynedd, ymgymrodd Llywodraeth Cymru â phrosiect mewn partneriaeth â’r Mentrau Iaith i dreialu gwasanaeth cymorth ar raddfa fach i fentrau bach a chanolig.

“Roedd y cynllun peilot yn dangos arwyddion addawol o ran codi ymwybyddiaeth o fanteision defnyddio’r Gymraeg drwy ddarparu cymorth ymarferol wyneb yn wyneb, a chyngor rheolaidd i fusnesau.

“Rydyn ni nawr mewn sefyllfa i ehangu’r gwaith peilot, mewn partneriaeth â Mentrau Iaith Cymru, ac i weithio gyda nifer fwy o fentrau bach a chanolig i ddarparu cymorth wedi’i deilwra i gefnogi cynnydd yn y gwasanaethau Cymraeg.”

Dywedodd Owain Gruffudd, Cadeirydd Mentrau Iaith Cymru:

“Mae’r Mentrau Iaith yn croesawu’r cyfle i gydweithio â Llywodraeth Cymru i hybu’r Gymraeg ymhlith busnesau bach a chanolig. Mae’r Mentrau Iaith eisoes yn gweithio ar lawr gwlad ledled Cymru – bydd trafod gyda busnesau yn ein helpu yn ein gwaith i hybu’r defnydd o’r Gymraeg yn ein cymunedau.”