Mae busnesau ledled Cymru yn cymryd rhan mewn ymgyrch gan Lywodraeth Cymru i rannu eu rhesymau dros ddefnyddio Cymraeg.

Mae’r ymgyrch –  #100kRheswm yn annog perchnogion busnes i helpu i ysbrydoli eraill i ddechrau defnyddio’r Gymraeg gan annog sgwrs am fanteision defnyddio’r Gymraeg i fusnesau.

Mae 100,000 o fentrau bach i ganolig wrth graidd economi Cymru, ac mae pob un yn cael y cyfle i brofi effaith gadarnhaol y gallai defnyddio ychydig o Gymraeg ei gael. I helpu’r  busnesau bach hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi lansio prosiect Cymraeg Byd Busnes yn 2017 sy’n cynnig cyngor rhad ac am ddim, wedi’i deilwra at ddefnyddio Cymraeg mewn lle busnes.

Drwy gynnig y gwasanaeth, mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio bydd mwy o berchnogion busnes yn dechrau meddwl am sut y gallai Cymraeg ddod yn fwy amlwg yn eu busnesau, gan roi’r cyfle i bobl ddefnyddio Cymraeg yn eu cymunedau – a’r cyfan yn cefnogi gweledigaeth strategaeth Cymraeg 2050 o filiwn o siaradwyr.

Mae ystadegau blwyddyn gyntaf Cymraeg Byd Busnes yn dangos fod busnesau wedi elwa ar y gefnogaeth newydd. Dangosodd y ffigurau:

  • Bod 140 o fusnesau wedi defnyddio’r gwasanaeth cyfieithu rhad ac am ddim
  • Mwy na 1,000 o fusnesau wedi cymryd rhan yn y prosiect
  • Bod bron i 200 o fusnesau wedi cael cefnogaeth i ddefnyddio’r Gymraeg

Dywedodd José Lourenco, perchennog The Celtic Arms yn Llaneurgain:

“Rydym yn defnyddio Cymraeg oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi ein cwsmeriaid lleol. Fel rhywun di-Gymraeg, mae’r gefnogaeth rhad ac am ddim rwyf wedi derbyn  gan y prosiect Cymraeg Byd Busnes wedi bod yn wych. Rydym wedi gallu ychwanegu ychydig o Gymraeg i’n bwydlenni a’n harwyddion o amgylch y bwyty.

“Mae ein cwsmeriaid Cymraeg eu hiaith wrth eu boddau’n gweld yr iaith yn cael ei defnyddio ac rydym yn cael llawer o sylwadau gwych gan bobl o bob cwr o’r byd!”

Dywedodd Philip Thomas, perchennog bragdy cwrw crefft Bragdy Twt Lol yn Nhrefforest;

“Mae defnyddio’r Gymraeg yn fy musnes wedi gwneud i’r brand sefyll allan oherwydd ein bod yn gwneud rhywbeth ychydig yn wahanol. Fel siaradwr Cymraegmae defnyddio’r iaith bob amser yn mynd i fod yn rhan naturiol o fy musnes ond mae yna fantais glir i gael y gwasanaeth rhad ac am ddim fel gwirio negeseuon ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol. Byddem yn annog entrepreneuriaid eraill i fanteisio ar hyn, mae’n gwbl amlwg.”

Image from iOS

Dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol;

“Mae cydweithio gyda busnesau preifat yn hanfodol i lwyddiant Cymraeg 2050, felly rwyf yn annog y rhai sydd eisoes yn defnyddio’r Gymraeg i godi llais am y manteision maen nhw wedi’u gweld yn deillio o ddefnyddio’r iaith.

“Mae defnyddio’r Gymraeg mewn busnes yn gwneud synnwyr busnes. Os ydych yn berchennog busnes sydd yn teimlo’n ofnus am gynnig gwasanaethau dwyieithog, rwyf am i chi wybod bod Cymraeg mewn Busnes yma i’ch cefnogi. Fe all ddefnyddio ychydig o Gymraeg wneud gwahaniaeth mawr.”

Os ydych yn berchennog busnes bach  sy’n defnyddio Cymraeg, cymrwch ran yn yr  ymgyrch drwy rannu eich rheswm chi dros ddefnyddio’r Gymraeg gyda’r hashnod #100kRheswm

I gael gwybod sut i fanteisio ar gymorth rhad ac am ddim gan y prosiect Cymraeg Byd Busnes, ewch i’r wefan: www.cymraeg.gov.wales/business